Sun. April 8, 2012
RHYDDHEWCH BRADLEY MANNING!
Mae Bradley Manning yn dilyn yn ôl-traed enwog datgelwyr camymddygiad fel Daniel Ellsberg (Papurau’r Pentagon) a Mordechai Vanunu (rhaglen arfau niwclear gyfrinachol Israel) ond mae llawer o bobl yn dal heb wybod pwy ydyw, beth sy’n digwydd iddo neu bwysigrwydd hanfodol ymateb gan y cyhoedd yn erbyn ei gaethiwed. Fe’i cyhuddir o fod wedi rhoi cannoedd o filoedd o lythyron, dogfennau ac ati i WikiLeaks, deunydd yn datgelu camymddwyn, llygredd a realiti hyll y rhyfeloedd sy’n cael eu hymladd gan yr UD gyda’n cefnogaeth ni.
Pe bai rhethreg ymgyrch arlywyddol Obama wedi cael ei gwireddu, byddai Bradley Manning wedi cael ei amddiffyn fel datgelwr camymddwyn. Yn lle hynny, cafodd ei gadw yn y ddalfa heb ei ddwyn ger bron llys am bron ddwy flynedd, a’i gadw mewn cell ar ei ben ei hun ac mewn amodau arteithiol am unarddeg mis o’r cyfnod hwnnw.
Gwrthodwyd caniatád i Rapporteur Arbennig y CU ar Arteithio gyfarfod yn breifat â Bradley, a daeth i’r casgliad bod ‘gosod amodau carcharu cosbol difrifol ar rywun nas cafwyd yn euog o unrhyw drosedd yn tarfu ar ei hawl i ddiogelwch corfforol a seicolegol yn ogystal ag i ragdybiaeth o ddieuogrwydd.’ Mae’r Arlywydd Obama eisoes wedi datgan ei fod yn euog. Does dim gobaith gan Manning o wrandawiad teg yn y llys milwrol sydd i fod i’w gynnal rywbryd eleni (gwrandawiad nesaf ar y 24-26 Ebrill). Mae’r ymgyrch i ryddhau Bradley Manning yn parhau. Mae’n neilltuol o berthnasol yma yng Nghymru gan fod mam Bradley yn Gymraes sy’n dal i fyw yma.
Gwir Ddrama
Bydd National Theatre Wales (NTW) yn teithio Cymru â drama Tim Price, The Radicalisation of Bradley Manning ym mis Ebrill (Hwlffordd 12-14, Caerdydd 15-21, Cei Connah 25-28). Gweler gwefan NTW am fwy o fanylion a sut i fwcio:
http://nationaltheatrewales.org/whatson/performance/ntw18
Caiff perfformiadau eu ffrydio’n fyw ar y rhyngrwyd, gyda chynulleidfa bosibl ym mhedwar ban y byd. Lawnsir y ddrama yn Tasker Milward, yr ysgol gyfun yn Hwlffordd y bu Bradley’n ddisgybl ynddi yn ei arddegau.
Siarad a Dysgu am Bradley
Mae’r rhwydwaith ‘WISE Up for Bradley Manning’ (gyda WISE yn sefyll am Gymru, Iwerddon, yr Alban a Lloegr) yn trefnu cyfres o ddigwyddiadau ledled Cymru ym mis Ebrill i gyd-daro â’r ddrama, ynghyd â grwpiau a mudiadau eraill. Mae’r digwyddiadau yn cynnwys arddangosfa yn canolbwyntio ar ryfel a chynfilwyr rhyfel yn Hwlffordd (nos Wener 13), noson gyda Craig Murray yng Nghaerdydd (Llun 16), trafodaeth banel yng Nghaerdydd (Sadwrn 21), rhagflas arbennig ar y ffilm a enebwyd am wobr Oscar, Incident in New Baghdad yng nghyd-gyfarfod CND Cymru a CCU Caerdydd a’r Cylch (Mawrth 24), cyfarfod datgelwyr camymddwyn yn Ninbych (Gwener 27) a noson o gerddoriaeth a cherddi yn Wrecsam (Sul 29). Manylion a mwy o ddigwyddiadau i’w cadarnhau.
heddweithredu:
Allwch chi drefnu digwyddiad i gefnogi Bradley Manning, waeth pa mor fach? Rhowch wybod i ni os gwnewch: ebost wiseupforbm@yahoo.com.
Am hanes digwyddiadau, gweithgareddau lleol a manylion am ddigwyddiadau yn y dyfodol, gweler: wiseupforbradleymanning.wordpress.com
Am yr ymgyrch ryngwladol, gweler: bradleymanning.org
