Polisi Iaith

Mae CND Cymru yn fudiad gwirfoddol sy’n gweithio’n ddwyieithog.

Mae’n fwriad gan CND Cymru i ddarparu holl wybodaeth y wefan yn ddwyieithog, ond fel mudiad gwirfoddol deallwn na fydd hi’n wastad yn ymarferol i ddarparu’r holl wybodaeth yn Gymraeg.

Mae CND Cymru yn croesawu cyfathrebiadau yn y Gymraeg neu’r Saesneg, a’n nod yw ateb yn gyfartal i’r ddwy iaith. Atebir pob gohebiaeth yn iaith yr ohebiaeth/ymholiad gwreiddiol. Lle bo swyddog yn derbyn gohebiaeth Gymraeg ac yn methu deall Cymraeg, bydd cyd-swyddog ddwyieithog yn cyfieithu ac ymateb.