Cymryd Rhan

Cymryd Rhan

Gwirfoddolwyr yw pawb yn CND Cymru, ac rydyn ni’n ariannu’n gyfan gwbl gan ein cefnogwyr. Fel unrhyw grŵp gwirfoddol arall, mae CND Cymru yn dibynnu ar waith gwirfoddol ei haelodau i ymgyrchu. Rydym yn angen mwy o wirfoddolwyr er mwyn gwneud mwy – os hoffwch chi weithio gyda ni, cysylltwch â ni!

Ymuno â ni

Mae tua 1,000 unigolion, grwpiau a mudiadau yn aelodau o CND Cymru. Mae pob aelod yn derbyn copi o Heddwch, cylchgrawn C N D Cymru. Mae aelodau sy’n ymuno a CNDD Cymru trwy’r swyddfa yn Llundain ond yn byw yng Nghymru hefyd yn derbyn ‘Heddwch’.

Mae tair ffordd y gallwch chi ymaelodu at CND Cymru:

  1. Aelodaeth trwy’r post
    Argraffwch a llenwch y Ffurflen Aeolodaeth CND Cymru a’i phostio at ein trysorydd (mae’r cyfeiriad ar y ffurflen), os gwelwch yn dda.
  2. Aelodaeth electronig trwy eich banc
  3. Aelodaeth trwy PayPal, naill ai gyda cherdyn credyd neu oddi wrth gyfrif PayPal.

Ddim yn barod i ymuno eto? Gallwch ymuno a’n rhestr ebost am rhagor o wybodaeth.

CND Ieuenctid a Myfyrwyr

Mae aelodau o CND Cymru dan 25 neu myfyreyr yn aelodau hefyd o Youth and Student CND.

Ysgrifennu at eich AS

Gallwch ddefnyddio y copi yma i ysgrifennu at eich AS. Mae llythyrau neu e-byst personol yn well – newidiwch y llythyr awgrymedig er mwyn ei bersonoli, os gwelwch yn dda.

Deisebau

Rhoi’r gorau i Trident!

Y rydym ni’n galw ar y llywodraeth i:
• cefnogi’r Cytundeb Gwahardd Arfau Niwclear, y bydd yn gwahardd pob arfau niwclear yn y byd rhoi’r gorau i Trident a’i olynydd
• rhoi’r gorau i’r olynydd i Trident, system arfau niwclear Prydeinig.

Gallech chi lofnodi’r ddeiseb ar lein (yn Saesneg yn unig, yn anffodus) yma, ac / neu gallech chi lawr llwytho copi yma ac argraffu fe ar bapur er mwyn i chi casglu enwau arno fe.

Cysylltwch â ni

Unrhywbeth ar goll? Cysylltwch â ni drwy ffurflen neu drwy ein cyfryngau cymdeithasol:

Facebook

Twitter

Instagram