Henry Richard

Henry Richard, Tregaron

Henry Richard, Tregaron

Ganwyd Henry Richard, ‘yr Apostol Heddwch’ yn Nhy Gwyn, Tregaron yn 1812, yn fab i’r Parch. Ebenezer Richard. Symudodd y teulu yn fuan i Prospect House, Tregaron. Bu’n astudio am y weinidogaeth a daeth yn weinidog eglwys Annibynnol Capel Marlborough, Old Kent Road, Llundain rhwng 1835 a 1850. Yn 1843 ysgrifennodd yn amddiffyn Terfysgoedd Becca yng Nghymru. Yn 1848 dechreuodd gwaith ei oes fel “Apostol Heddwch” gan ddod yn ysgrifennydd y Gymdeithas dros Heddwch Parhaol a Byd-eang ac ynghyd â Cobden a Bright, gweithiodd tuag at ddatrys anghydfod rhyngwladol drwy drafod yn hytrach na rhyfela. Trefnodd Gynhadledd Heddwch fawr ym Mrwsel lle mabwysiadwyd yr egwyddorion hyn. Yn y Gyngres Heddwch ym Mharis in 1856 cafwyd datblygiad pellach. Ym 1868 ymunodd â’r Senedd fel A.S dros Ferthyr Tydfil; o’r adeg honnoyd ei farwolaeth ystyriwyd ef fel “Yr aelod dros Gymru”. Ym 1873 cariwyd ei benderfyniad ar gyfer Cymodi Rhyngwladol yn y Ty Cyffredin i swn bonllefau uchel. Gweithiodd yn galed dros gydraddoldeb crefyddol ac addysg yng Nghymru. Bu farw yn sydyn yn 1888. Delw efydd yw ei gofeb ar Sgwâr Tregaron ar fôn gwenithfaen, gan Alfred Toft. Cafodd ei ddadlennu ar Awst 18fed, 1893. Agorwyd Llyfrgell Goffa Henry Richard yn Adeiladau’r Brenin, Sgwâr, San Steffan ym 1927 gan D Lloyd George. Mae ei fedd ym Mynwent Parc Abney, Llundain a chodwyd yr arian drwy danysgrifiad gan y cyhoedd.