Skip to content

Sain Tathan yn simsanu

Eliffant gwyn ymlwybrol yma eu colli cyn i wleidyddion pedair

Fis Hydref diwethaf, clywsom fod ‘pecyn 2’ ar gyfer Academi Hyfforddiant Milwrol arfaethedig Sain Tathan wedi ei oedi am gyfnod amhenodol, a gofynsom ‘faint rhagor o olwynion y bydd rhaid i’r eliffant gwyn ymlwybrol yma eu colli cyn i wleidyddion pedair prif blaid Cymru sylweddoli fod yr holl broject yn gamgymeriad ofnadwy?’ Pwy fasai wedi meddwl y byddai’r eliffant, erbyn mis Mehefin, yn gorwedd ar ei gefn yn chwifio’i goesau yn yr awyr? Mae rhai yn mentro meddwl fod yr holl beth yn graddol dod i stop.

Mae o leiaf £11 biliwn o arian trethdalwyr ar fin cael ei wario ar adeiladu a rhedeg Academi Filwrol o dan gynllun PFI (cyllid cyhoeddus ond o dan reolaeth breifat) yn Sain Tathan ym Mro Morgannwg. Mae aelodau craidd consortiwm Metrix a ddewiswyd i adeiladu a rhedeg yr academi yn cynnwys cwmni arfau Raytheon, yn ogystal â Serco a QinetiQ, ynghyd â’r Brifysgol Agored. Nid dim ond aelodau o luoedd arfog Prydain y bydd yr academi’n eu hyfforddi, ond milwyr unrhyw lywodraeth amheus neu gwmni milwrol preifat a all dalu.

Peryglon

Mae dogfennau a ddatgelwyd yn gyfrinachol o gyfarfod diweddar o Fwrdd Gwaith yr Arolwg Hyfforddiant Amddiffyn yn dangos y gallai fod oedi o 8 mlynedd yn awr cyn sefydlu’r Academi. Mae’r dogfennau hefyd yn nodi pryderon am beryglon a allai fod yn drychinebus i filwyr rheng-flaen. Dangosir fod ‘arbedion’ honedig y cytundeb PFI o £3 biliwn dros 25 years yn awr yn ddim ond £400 million dros 30 mlynedd; swm pitw yng nghyd-destun y gyllideb amddiffyn yn ei chrynswth. Mae Robert O’Harney, llefarydd Cosford ar ran Undeb y PCS yn hawlio fod brwdfrydedd y Weinyddiaeth Amddiffyn ynglwn â’r holl broject yn oeri . Dywedodd yn ddiweddar: ‘O’r hyn a glywn, mae’r cwbl yn y fantol.’

Amheuon

Mae gobeithion yn cynyddu yn ne Lloegr fod y bygythiad i ganolfan hyfforddi HMS Sultan yn Gosport yn mynd i gael ei ohirio. Dyma lle mae llongwyr tanfor yn cael eu hyfforddi mewn gweithredu a chynnal a chadw llongau tanfor yn ogystal â llongau rhyfel eraill. Y llynedd, cyhoeddodd gweinidogion y byddai Sultan yn cau erbyn 2017 gyda’r holl hyfforddi’n cael ei symud i Sain Tathan. Yn awr, symudwyd y dyddiad hwnnw i 2025 o leiaf. Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn dweud na fu penderfyniad hyd yn hyn. Dywedodd AS Portsmouth South, Mike Hancock, aelod o’r Pwyllgor Dethol ar Amddiffyn, fod y newyddion yn bwrw amheuaeth ar broject Sain Tathan: ‘Dwi’n credu ei bod hi’n annhebygol y bydd cynllun Sain Tathan yn digwydd oherwydd mae’n ddrud iawn’, meddai. ‘Mae gennyf – ac fe fu gennyf erioed - fy amheuon ynglwn â’r project.’

Wynebau coch

Dywedodd Mr O’Harney ‘Dwi’n credu fod peryglon preifateiddio yn annioddefol a synnwn i ddim pe bai gweinidogion yn tynnu’r plwg ar hyn, gan adael llawer o bobl â wynebau coch.’

Mae newyddion am y dogfennau a ddatgelwyd, a gyhoeddwyd yng nghylchgrawn Private Eye, yn dweud eu bod yn rhestru ‘15 risg sylweddol’ yn cynnwys pryderon ynglwn â ‘diffyg ethos milwrol’ y consortiwm, ac am y posibilrwydd y bydd y rhai a hyfforddwyd yn ymadael ’heb eu paratoi’n ddigonol ar gyfer gwasanaeth gweithredol’.

Dewisiadau amgen

Yn lle gwastraffu amser ac arian ar drywydd ffyrdd milwrol mwyfwy gwallgof o ddatrys problemau rhyngwladol, dylai ein cynrychiolwyr etholedig fod yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â’r newidiadau amgylcheddol anferth y mae’n byd yn eu hwynebu. Pam na allwn ni yng Nghymru arwain y ffordd gyda hyfforddi mewn dulliau di-drais o ddatrys anghydfod, ac atal trais gartref a mewn gwledydd tramor? Pam mae gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn wynebu toriadau pan fo arian ar gael i’w wario ar baratoi at ryfel?

Y Gymru Iawn

Ymddengys bellach na all yr ASau a’r ACau a gefnogodd yr Academi Filwrol yn Sain Tathan yn unfrydol ddychmygu dim ond dyfodol lle mae gwrthdaro rhyngwladol yn cael ei ddatrys drwy drais, lle derbynir y lladd a llurgunio, anobaith a dioddefaint a achosir i bobl ddiniwed gan filitariaeth, a lle anwybyddir y niwed parhaol i’r amgylchedd a achosir gan ryfeloedd a gwrthdaro. Ar y mater hwn, dydyn nhw ddim wedi gwneud dim i greu’r Gymru mae pobl ein gwlad am ei gweld – Cymru sy’n mynd i’r afael yn onest â chynhesu byd-eang a phroblemau amgylcheddol eraill, yn cefnogi hawliau dynol, sy’n dysgu i’n plant nad yw trais yn datrys dim byd, nad yw’n buddsoddi yn y fasnach arfau, sy’n cefnogi swyddi gwerthfawr, tymor-hir, ac sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus teilwng.

Y diwedd?

Pob clod i’r ymgyrchwyr craff yn erbyn holl broject academi Metrix. Pan fydd yr eliffant wedi ei gladdu o’r diwedd, gobeithio na chaiff ein ACau a’n ASau eu dallu byth eto gan y fath ystrywiau a’u denu i gymeradwyo penderfyniad ‘swyddi am unrhyw bris’ mor amddifad o bob moesoldeb.

Efallai y byddai’r ‘arch-hangar’ £77 miliwn a adeiladwyd ac y rhoddwyd y gorau iddo yn RAF Sain Tathan yn gynharach y ganrif hon yn feddrod teilwng i eliffant gwyn Sain Tathan.

Against Military Privatisation

heddweithredu:

Bydd yr ymgyrch yn parhau nes bod holl freuddwyd y rhyfelgarwyr wedi dod i ben.

* Gweler www.no2militaryacademy.com www.cynefinywerin.org i gymryd rhan ac i arwyddo’r ddeiseb/ Gweler hefyd www.gaggedanarchist.tk

* Mae pamffled Stuart Tannock, ‘Academi Hyfforddiant Amddiffyn Sain Tathan a Dyfodol Cymru’ ar gael gan CND Cymru neu i’w lawrlwytho o wefan Cynefin y Werin.

* Mae ymgyrch ‘Dwedwch Na i’r Academi Filwrol’ yn cyfarfod yn rheolaidd yng Nghaerdydd, cysylltwch ag Anne Greagsby am fwy o wybodaeth: t: 02920 626 287

sym: 07817513610 e: Annegre@aol.com

* Sgrifennwch at eich AC a’ch AS i fynegi’ch barn. Cadwch y mater yn y newyddion!