Academi Heddwch Cymru – Hybu Heddwch
Academi Heddwch Cymru
Hybu Heddwch
Bydd cyn ASE a Llywydd Sefydliad Heddwch Fflandrys, Nelly Maes, a Chyfarwyddwr y Sefydliad, Tomas Baum, yng Nghymru yr wythnos nesaf (Chwefror 23 a 24) i roi tystiolaeth i’r Cynulliad i gefnogi deiseb 1,500 o enwau sy’n galw am Academi Heddwch Cymru. O Gaerdydd bydd Nelly yn teithio i Gaerfyrddin, Aberystwyth a Bangor i siarad am eu gwaith.
Mae nifer o sefyliadau tebyg mewn cenhedloedd eraill, yn cynnwys Ffindir, Fflandrys a Chataluyna, a rhai yn nhaleithau’r UDA. Maent yn trefnu hyfforddiant ac ymchwil i faterion heddwch, y farchnad arfau a gwariant milwrol. Mae Sefydliad Heddwch Fflandrys yn archwilio effaith polisiau a gweithrediadauy Senedd Fflandrys ar heddwch a chyfiawnder – o fewn y gymdeithas, yn ogystal ag yn ghenedlaethol ac yn rhyngwladol.
Mae llawer o unigolion a mudiadau wedi uno i ofyn i’r Cynulliad i ymchwilio i’r posiblrwydd o sefydlu corff tebyg yng Nghymru, yn eu plith Canolfan Cymreig Materion Rhyngwladol, Cymdeithas y Cymod, CND Cymru a Chynefin y Werin. Gallai Academi Heddwch Cymru roi cyngor i’r Cynulliad ar bolisiau perthnasol i heddwch, gyda ei gwaith yn seiledig ar ymchwil academaidd annibynnol.
Meddai Cadeirydd CND Cymru Jill Evans ASE:
“Mae gan Gymru a Fflandrys gyswllt hanesyddol oherwydd trasiedi rhyfel a’n dymuniad dros heddwch. Rydym yn adeiladu ar y cyswllt hwn heddiw. Rwyf yn hyderus y byddwn yn derbyn cefnogaeth gan bob plaid a phob sector gymdeithas. Sefydlwyd ein Cynulliad Cenedlaethol i ddelio gyda’r materion sy’n effeithio pobl Cymru. Fel mae’r ymrwymiad i ddatblygu cynaladwy wedi llywio gwaith y Cynulliad, byddai Academi Heddwch yn codi ymwybyddiaeth ymysg Aelodau’r Cynulliad am effaith polisiau a phenderfyniad sy’n perthyn i faesedd milwrol, arfau a gwrthdaro ar Gymru a gweddill y byd. Mae Fflandrys wedi ein hysbrydoli, ond dim ond un yw hwn ymysg llawer o sefydliadau tebyg o amgylch y byd. Gwn fod gan Academi Heddwch Cymru le yn eu mysg.”
Meddai Stephen Thomas, Canolfan Cymru Materion Rhyngwladol:
“Gwneir llawer o waith eisioes o gwmpas Cymru ym maes annog heddwch ac atal gwrthdaro treisol. Mae addysg yn yr ysgolion a phrifysgolion, ymchwil academaidd, ac ymgyrchu ar faterion heddwch. Mae’n briodol i geisio cryfhau’r ymdrechion gan gymaint o fudiadau ac unigolion, trwy cydlynu y fyddai’n cael ei ddarparu gan Academi Heddwch genedlaethol.”
Meddai Jill Gough, Ysgrifennydd Genedlaethol CND Cymru:
“Rydym wedi derbyn cefnogaeth eang ledled Cymru sy’n dangos fod y syniad yn un amserol. Byddai’n adlewyrchu traddodiad ein cenedl, a theimlad y cyhoedd ar faterion byd-eang, petai’r Cynulliad yn rhoi arweiniad trwy sefydlu Academi Heddwch yng Nghymru.”
DIWEDD
Am ragor o fanylion a chyfweliadau:
Stephen Thomas
Jill Evans ASE 01443 441 395 m: 07803 902 401 Jill.evans@europarl.europa.eu
Dr John Cox
01495 773 495 drjohncox@aol.com
Robin Gwyndaf
02920 626 287 rgwyndaf@sky.com
Jill Gough
01239 851 188 heddwch@cndcymru.org
Ben Gregory
01286 882 134 benica@gn.apc.org
Mae taflen esbonio wedi cael ei hatodi.
Bydd y cyflwyniad i Bwyllgor Deisebion y Cynulliad yn digwydd am 9.00yb
Bydd Llywydd Sefydliad Heddwch Fflandrys, Nelly Maes, a’i Gyfarwyddwr, Tomas Baum, yn rhoi tystiolaeth i’r Pwyllgor, gyda Stephen Thomas, John Cox a Jill Evans
Bydd cyfle tynnu lluniau/cyfweliadau gyda Nelly a Tomas cyn y sesiwn tystiolaeth, yng Nghyntedd y Senedd, rhwng 8.30 a 8.45 yb.
Bydd taith siarad dau ddiwrnod ledled Cymru gan Nelly Maes yn dilyn y cyflwyniad
Digwyddiad:
Cardiff
Chwefror 23 2.30yp
Y Senedd Cyfarfod gyda Nelly Maes and Tomas Baum croeso i bawb Manylion Bethan Jenkins: bethan.jenkins@wales.gov.uk 029 2089 8271
Caerfyrddin
Chwefror 23 7yh
Festri Capel Tabernacl, Waterloo Terrace.
Manylion: Mererid Hopwood 07855 868 077
Aberystwyth
Chwefror 24 1 – 3yp
Y Prif Neuadd, Adeilad Gwleidyddiaeth Rhyngwladol, Prifysgol Aberystwyth
Manylion Dr. Grant Dawson – Is-Cyfarwyddwr, Sefydliad Cofio David Davies
dawson.grant@gmail.com 01970 628 563
yr Athro Nicholas J. Wheeler – Cyfarwyddwr, Sefydliad Cofio David Davies
njw@aber.ac.uk 01970 628 563
Bangor
Chwefror 24, 7.30pm
Capel Berea Newydd, Rhodfa Dewi Sant, Ffordd Penrhos, Bangor
Cyfarfod cyhoeddus: ‘Academi Heddwch i Gymru?’
Trefnwyd gan Grw^p Heddwch a Chyfiawnder Bangor a Môn Peace and Grw^p Heddwch a Chyfiawnder Arfon
Manylion Phil Steele 01248 490 715 phil.steele@btinternet.com ;
Ben Gregory 01286 882 134, benica@gn.apc.org