Addewid Seneddol o blaid y
Cytundeb ar Wahardd Arfau Niwclear
Yr ydym ni, y seneddwyr sydd wedi arwyddo isod, yn croesawu’n gynnes y penderfyniad i fabwysiadu Cytundeb y CU ar Wahardd Arfau Niwclear ar 7 Gorffennaf 2017 fel cam pwysig tuag at fyd yn rhydd o arfau niwclear.
Rydym yn rhannu’r pryder dwys a fynegir yn y rhagarweiniad parthed canlyniadau dynol trychinebus a fyddai’n deillio pe gwneid unrhyw ddefnydd o arfau niwclear, a chydnabyddwn yr angen, o ganlyniad, am ddileu’r arfau annynol ac erchyll hyn.
Fel seneddwyr, ymrwymwn i weithio i sicrhau bod ein gwahanol wledydd yn arwyddo a chadarnhau’r cytundeb hanesyddol hwn, gan ein bod o’r farn bod diddymu arfau niwclear yn ddaioni cyhoeddus o’r pwys mwyaf i’r holl fyd ac yn gam hanfodol i hyrwyddo diogelwch a llesiant holl bobloedd y byd.
Rhestr o wleidyddion Cymreig sydd wedi llofnodi’r addewid yn barod:
Aelodau o’r Senedd: Mabon ap Gwynfor AS, Rhun ap Iorwerth AS, Jayne Bryant AS, Cefin Campbell AS, Jane Dodds AS, Kerry Ferguson AS, Heledd Fychan AS, Peredur Owen Griffiths AS, Llyr Gruffydd AS, Siân Gwenllian AS, Mike Hedges AS, Delyth Jewell AS, Elin Jones AS, Adam Price AS, Elyn Stephens AS, Lindsay Whittle AS, Sioned Williams AS
Aelodau Seneddol: Jonathan Edwards AS, Ruth Jones AS, Ben Lake AS, Liz Saville Roberts AS, Jo Stevens AS, Hywel Williams AS
Ydy pob un o’ch gwleidyddion etholedig wedi llofnodi ?
Os nad ydyn, beth am ofyn iddynt lofnodi ?
I gyd sydd angen i’w wneud yw ysgrifennu neges bir, yn eich geiriau’ch hunan, yn gofyn iddynt lofnodi, gan gynnwys yr addewid ddwyieithog, gyda’ch enw a chyfeiriad (er mwyn iddynt wybod eich bod chi’n byw yn eu hetholaeth).
Gallech chi ddod o hyd i gyfeiriadau e-bost (neu gyfeiriadau post) am eich
Aelodau o’r Senedd: yma
Aelodau Seneddol: yma
Mae rhestr o’r holl wleidyddion y byd sydd wedi arwyddo Addewid Seneddwyr ICAN ar gael yma
Llofnodwyr blaenorol: Rhys ab Owen AS, Mick Antoniw AS, Luke Fletcher AS, John Griffiths AS, Dai Lloyd AS, Carwyn Jones AS, Helen Mary Jones AS, Neil McEvoy AS, Jenny Rathbone AS, David Rees AS, Bethan Sayed AS, Carolyn Thomas AS, Rhodri Glyn Thomas AS, Leanne Wood AS; Jane Dodds AS, Paul Flynn AS, Beth Winter AS; Jill Evans ASE, Derek Vaughan ASE
