Lakenheath

Mae’r UD yn paratoi i uwchraddio’r arfau niwclear sydd wedi eu lleoli yng Ngwlad Belg, yr Iseldiroedd, yr Almaen, yr Eidal a Thwrci, ac fe gytunodd llywodraeth y DU – heb drafodaeth yn San Steffan – y câi’r UD leoli arfau niwclear yn y DU unwaith eto, yn RAF Lakenheath, Suffolk.

Lleolwyd arfau niwclear yr UD yn Lakenheath o 1954 tan 2008, pan symudwyd y 110 bom niwclear olaf oddi yno.

Arfau niwclear yr UD yn y DU ac Ewrop

Mae Lakenheath yn gartref i 48fed Asgell Ymladd yr UD, y llu mwyaf o bersonél USAF ym Mhrydain, rhyw 6,000 i gyd. Byddant yn hedfan yr awyren ryfel ddiweddaraf â’r gallu i gludo bomiau niwclear – yr F-35A. Disgwylir iddynt ddechrau hyfforddi gyda bomiau niwclear cyfeiriedig B61-12 yn 2023.

Mae tua 150 o fomiau disgyrchiant niwclear B61 Americanaidd eisoes wedi’u lleoli mewn pum gwlad yn Ewrop: Gwlad Belg, yr Almaen, yr Iseldiroedd, yr Eidal a Thwrci, fel rhan o bolisi amddiffyn NATO. Lluoedd yr UD sy’n gwarchod y storfeydd arfau niwclear yn y gwledydd hyn, gyda system cod deuol yn weithredol adeg rhyfel – byddai’n rhaid i’r wlad lle’u lleolir a’r UD ill dwy gymeradwyo defnyddio’r arfau.

Dydy arfau niwclear yr UD ddim yn ein diogelu: maen nhw’n gwneud targed ohonom a’n clymu wrth bolisi tramor yr UD. Mae lleoli mwy o arfau niwclear yr UD yn Ewrop yn ystod rhyfel Rwsia ar Wcráin ond yn cynyddu tensiynau rhwng Rwsia ac Ewrop.

Yr UD yw’r unig wlad yn y byd sy’n lleoli ei harfau niwclear y tu allan i’w ffiniau ei hun.

Damweiniau niwclear yn Lakenheath

Gwyddom bod o leiaf dwy ddamwain fawr gydag arfau niwclear wedi digwydd yn RAF Lakenheath.

Ym 1956 tarodd awyren fomio B-47 ar daith hyfforddi feunyddiol uned storio yn dal arfau niwclear, gan ladd pedwar o ddynion. Datganodd dogfennau swyddogol yr UD ei fod yn ‘wyrth’ na ffrwydrodd yr un o’r bomiau, a’i bod ‘yn bosibl y byddai rhan o Ddwyrain Lloegr wedi troi’n anialwch’.

Ym 1961 aeth awyren yn cludo bom niwclear ar dân wedi camgymeriad gan y peilot. Cafodd y bom ei ‘ddeifio a’i bothellu’, a chanfu gwyddonwyr yn ddiweddarach y gallai fod wedi ffrwydro dan amgylchiadau fymryn yn wahanol.

Celwyd y ddau ddigwyddiad gan lywodraethau’r UD a Phrydain, a dim ond ym 1979 a 2003 y cyfaddefwyd y naill a’r llall.

EDM 98: Storio arfau niwclear yr UD yn y DU

Testun pryder mawr i’r Tŷ hwn yw bod y Deyrnas Unedig wedi’i hychwanegu at restr yr Unol Daleithiau o leoliadau safleoedd storio arfau niwclear yn Ewrop ac, yn ôl gwybodaeth a ryddhawyd gan lywodraeth yr Unol Daleithiau, bod y safleoedd storio hyn yn cael eu huwchraddio; bod hyn yn arwydd o newid yn statws niwclear RAF Lakenheath, a’i bod yn bosibl, ar ôl cael eu symud oddi yno yn 2008, bod arfau niwclear yr UD eisoes wedi’u dychwelyd yno neu y bydd yn derbyn arfau niwclear yn y dyfodol; yn condemnio gwrthodiad y Weinyddiaeth Amddiffyn i wneud sylw ar y wybodaeth hon wrth aelodau’r Tŷ hwn; yn nodi y rhedir RAF Lakenheath, er ei fod yn eiddo i’r Weinyddiaeth Amddiffyn, gan Awyrlu’r Unol Daleithiau; yn nodi ymhellach bod storio arfau niwclear gwlad arall ar dir y DU yn gosod dinasyddion y DU mewn mwy o berygl o ymosodiad niwclear; ac yn galw ar y Llywodraeth i wrthod derbyn arfau niwclear yr Unol Daleithiau yn RAF Lakenheath ac i ddefnyddio pob ymdrech ddiplomyddol bosibl i leihau tensiynau niwclear presennol.

Mae templed yma o e-bost y gellir ei gopïo a’i ludo a’i anfon at eich AS. Gwnewch unrhyw newidiadau iddo fel y mynnoch, ychwanegwch enw eich AS ar y brig a’ch enw, cyfeiriad a chod post chithau ar y gwaelod. Os cewch chi ateb, da chi, anfonwch e at Elizabeth Nakielny elizabeth.nakielny@graduateinstitute.ch fel y gallwn gasglu’r ymatebion gan holl ASau Cymru.

Aelodau Seneddol Cymreig sydd wedi arwyddo EDM 98: Jonathan Edwards AS, Ben Lake AS, Liz Saville Roberts AS, Hywel Williams AS