Manylion CCB CND Cymru

Manylion CCB CND Cymru

Bydd y CCB CND Cymru yn digwydd yn Canolfan Merched y Wawr, Aberystwyth, SY23 1JH, yn dechrau am 12yp. Bydd Te a Coffi ar gael o 11.30yb.

Bod yn barod am 12yp os gwelwch yn dda. Bydd y dolen zoom ar gael ar gais i heddwch@cndcymru.org. Os ydych yn aelod ddylai chi di derbyn dolen zoom yn barod.

Yr Agenda:

  1. Croeso, Mynychu ac Ymddiheuriadau
  2. Adroddiad y Cadeirydd
  3. Adroddiad Blynyddol yr Ysgrifennydd Genedlaethol
  4. Adroddiadau’r Swyddogion
  5. Ethol Swyddogion
  6. Cynigion i’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
  7. Ymgyrchoedd a Gweithgareddau ar gyfer y flwyddyn i ddod
  8. Ymgyrchoedd Cyfarfod Llawn Cymru – cyflwyniadau o wahanol ymgyrchoedd
    1. Na i Niwclear yng Nghwm Llynfi
    2. Parc yn Erbyn DARC
    3. Gorllewin Cymru yn erbyn yr Arfau
    4. Wylfa (PAWB)

Mae tri cynnig gerbron y cyfarod, dau arferol ac un ar frys:

Cynigion i’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol:

  1. Yr Adolygiad Amddiffyn Amgen

Cynigydd: Linda Rogers, Eilydd: Dylan Lewis-Rowlands

Mae CND Cymru yn canmol y gwaith a wnaed i greu a chyhoeddi’r ‘Adolygiad Amddiffyn Amgen’ eleni gan CND UK.

Mae CND Cymru yn cydnabod y ddogfen hon fel rhan hanfodol o ymgyrchu dros y mudiad heddwch ehangach.

Mae CND Cymru yn ymrwymo i ganoli’r Adolygiad Amddiffyn Amgen mewn unrhyw waith ymgyrchu perthnasol ar gyfer y flwyddyn nesaf, a bydd hefyd yn ymrwymo i gyfieithu’r ADR fel ei fod ar gael yn y Gymraeg.

  1. Cysylltied Undebau Llafur a Heddwch

Cynigydd: Dylan Lewis-Rowlands

Ar ôl nodi’r trafodaethau a gynhaliwyd yn y Pwyllgor Gwaith, bydd CND Cymru yn datblygu strwythur i alluogi cysylltiad ffurfiol gan ganghennau Undebau Llafur, a chan ganghennau neu grwpiau o’r mudiad heddwch sy’n rhannu ein nod.

Mae’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn caniatáu i’r Pwyllgor Gwaith ddiwygio’r Cyfansoddiad yn gul drwy ychwanegu adran ar gysylltiadau ag undebau llafur a grwpiau heddwch, a fydd yn cynnwys hawl bleidleisio gyfyngedig a chynrychiolwyr i’r Pwyllgor Gwaith o endidau cysylltiedig, yn ôl disgresiwn y PG.

  1. Moderneiddio ein Cyfathrebu Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (Cynnig Brys)

Bydd CND Cymru yn dileu o’i gyfansoddiad y gofyniad i anfon cyfathrebiadau post at aelodau ynghylch y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, gan gydnabod yn lle hynny fod yr hysbysiad sydd wedi’i gynnwys yn Heddwch yn ddigonol. Gall aelodau barhau i dderbyn hysbysiad post, ond ar gais yn unig. Bydd yn ofynnol i aelodau barhau i dderbyn cyfathrebiad e-bost fis cyn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a fydd yn cynnwys hysbysiad o’r cyfarfod, ac amlinelliad o’r busnes.