Nodau ac Amcanion

Mae CND Cymru yn ymgyrchu’n ddi-drais i waredu’r byd o arfau niwclear a phob arf dinistr torfol arall, ac i greu diogelwch gwirioneddol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. 

Byddwn yn cydweithredu â mudiadau heddwch eraill o Gymru, Prydain a rhai rhyngwladol, ond yn canolbwyntio ar arfau niwclear Prydain, gan mai ni sy’n ethol y gwleidyddion sy’n pleidleisio ar yr arfau hyn, a ni sy’n talu am yr arfau hyn trwy ein trethi. 

Rydym yn ymgyrchu’n benodol o blaid: 

  • Diddymu’r system arfau niwclear Trident gan lywodraeth y DU, ac yn erbyn datblygu, prynu neu leoli arfau niwclear eraill, neu ganiatáu lleoli unrhyw arfau niwclear tramor ar dir Prydain, yn awyrofod Prydain, neu yn nyfroedd Prydain 
  • Cael Llywodraeth y DU i arwyddo a chadarnhau’r Cytundeb ar Wahardd Arfau Niwclear (TPNW) 
  • Ufudd-dod  rhyngwladol llawn â’r TPNW, y Confensiwn Arfau Cemegol (CWC), a’r Confensiwn Arfau Biolegol (BWC)  
  • Disodli’r diwydiant ynni niwclear gan dechnolegau ynni adnewyddadwy, oherwydd y cysylltiadau rhwng y diwydiannau niwclear ‘sifil’ a milwrol, a’r rhan y mae pŵer niwclear wedi’i chwarae yn ymlediad arfau niwclear 
  • Datrys pob gwrthdaro yn heddychlon, gan gydnabod bod yn rhaid wrth gyfiawnder, parch at hawliau dynol, a chynaliadwyedd amgylcheddol i sicrhau heddwch parhaol 

Ein nod yw: 

  • Newid polisïau’r Llywodraeth er mwyn sicrhau dileu arfau niwclear Prydain, a fydd yn gyfraniad mawr at waharddiad byd-eang 
  • Ysgogi dadl gyhoeddus eang ar yr angen am ffyrdd amgen nag ymdrechion milwrol i ddatrys gwrthdaro 
  • Grymuso pobl i gyfranogi’n weithredol yn y broses wleidyddol ac i weithio o blaid dyfodol di-niwclear a heddychlon 

Mae CND Cymru yn dibynnu am arian ar aelodau a chefnogwyr. Gallwch chi helpu trwy ein cefnogi.