Last Energy

CYFALAFIAETH FENTRO NIWCLEAR AR EI GWAETHAF: LLYNFI A LAST ENERGY

Fis Tachwedd 2024, cyhoeddodd Last Energy, cwmni cyfalaf mentro niwclear o’r UD, gynlluniau ar gyfer adweithyddion niwclear yn nghyn-orsaf bŵer glo Llynfi, rhwng Pen-y-bont a Maesteg. Dydy’r cwmni erioed wedi adeiladu na gweithredu gorsaf bŵer niwclear yn unman yn y byd…

Photograph of a prototype of Last Energy’s reactor module

Yn wreiddiol, cyhoeddodd Last Energy y byddai’r Adweithyddion Modiwlar Bach yn fenter gyfan gwbl breifat o ran perchnogaeth, cyllido a gweithrediad, yn cyflenwi trydan yn uniongyrchol i ddiwydiannau lleol. Awgrymwyd wedyn y gallent gyflenwi cartrefi ac yna, pan ffrwydrodd AI i amlygrwydd, y gallai’r safle fod yn lle posib ar gyfer canolfan ddata AI. Mae’r cwmni bellach wedi dechrau hawlio defnydd domestig eto. Mewn gair, maent yn chwilio am droedle, nid ceisio datrys problem neu gyflenwi angen sy’n bod eisoes.

Aeth y cwmni ati mewn modd gwreiddiol iawn gyda “Phrosiect Ynni Glân Llynfi”. I ddechrau, ceisiodd Last Energy osgoi neu ochrgamu’r broses drwyddedu a rheoleiddio arferol a fwriedir i sicrhau cydymffurfiad diogelwch er mwyn gallu bod ar y safle erbyn 2026. Ymddengys bod y cyrff rheoleiddio yn fodlon cydsynio yn hyn o beth, gyda Last Energy yn rhedeg drwy’r broses trwyddedu safle ar garlam yn ddiweddar, er nad oes sôn hyd yma bod ei ddyluniadau hyd yn oed yn bodloni gofynion yr Awdurdod Rheoleiddio Niwclear.

Ni ddaeth unrhyw dogfennaeth i law, ond mae adroddiadau a’r ychydig gofnodion sydd ar gael yn awgrymu mai defnydd y safle yn ei hanfod fydd creu’r hyn a elwir gan Last Energy yn ‘fatris niwclear’ – y byddem ni’n eu galw’n adweithyddion niwclear – a fydd, ar derfyn eu hoes, yn cael eu storio dan ddaear ar y safle nes i’r safle gael ei ddatgomisiynu.

Beth am y gwastraff?

Gyda 4 adweithydd yn gweithredu ar y tro, pob un â chylch bywyd o ryw 6 blynedd, bwriedir i’r safle fod yn cynhyrchu trydan am 42 mlynedd, felly gallem fod yn delio â mwy na 28 o adweithyddion niwclear wedi’u disbyddu – gwastraff ymbelydrol ac angen tynnu’r tanwydd ohonynt, eu datgomisiynu a chael gwared â nhw pan ddaw oes y prosiect ben.

Nid ein hachub rhag newid hinsawdd, na hyd yn oed darparu ynni glân mo bwriad Last Energy a chwmnïau tebyg – ond gwneud elw. Pan ddaw cynhyrchu trydan i ben, daw’r elw i ben, ac mae’r costau datgomisiynu yn dechrau. Mae economeg a phrofiad yn y gorffennol yn awgrymu yr â gorsaf Llynfi yn fethdalwr, gyda Last Energy (yn rhyngwladol) wedi sicrhau ei fod wedi’i wahanu’n gyfreithiol oddi wrth yr orsaf – gan adael y bil datgomisiynu i ni, fel yn enghraifft ddiweddar safle glo brig Ffos-y-frân.

Wrth i Last Energy barhau i osod technoleg arbrofol wrth galon cymoedd de Cymru, rhaid i ni uno i wrthwynebu’r cynlluniau hyn ac atal Cymru rhag mynd yn faes profi pŵer niwclear.

BRIAN JONES a DYLAN LEWIS-ROWLANDS