Amdanom Ni

Mae arfau niwclear yn beryglus, yn anfoesol, yn ddrud ac yn amhoblogaidd.

Gwledydd sydd wedi
arwyddo y Cytundeb
Gwaharddiad Niwclear

Cefnogaeth y Cyhoedd yn 
DU ar gyfer gwaharddiad
llwyr ar arfau niwclear

Nifer Arfbennau Trident
yn y DU

*yn ôl arolwg barn Survation Mae CND Cymru – yr Ymgyrch Dros Ddiarfogi Niwclear yng Nghymru – yn ymgyrchu, ochr yn ochr â grwpiau ac unigolion eraill, i gael gwared ag arfau Niwclear a phob arfau dinistr torfol o Brydain a’r byd. Rydyn ni’n ymgyrchu hefyd dros heddwch a chyfiawnder i bobl a’r amgylchedd, ac yn erbyn y fasnach arfau. Darllenwch mwy am ein nodau ac amcanion fan hyn.

Arfau Niwclear

Pwy sydd ag Arfau Niwclear? Effeithiau Arfau Niwclear System arfau niwclear Prydeinig yw Trident. Mae’n cynnwys pedwar llong danfor gydag arfau niwclear, a yrrir gan ynni niwclear, gydag un ohonynt ar batrôl trwy’r amser dan y môr. Mae gan bob llong danfor Trident hyd at 40 arfben Niwclear, a gall bob un ohonot gael ei hanfon at nod gwahanol. Mae gan bob arfben pŵer ffrwydrol hyd at 100 cilo-tunnell, hynny yw 100,000 tunnell o ffrwydron ffyrnig confensiynol. Mae hyn yn 8 waith mwy grymus na’r bom atomig a dinistriwyd Hiroshima ym 1945, a lladdwyd tua 140,000 o bobl. Trident a’i Olynydd

Cytundeb ar Wahardd Arfau Niwclear

Mae cytundeb y Cenhedloedd Unedig yn gwahardd gwladwriaethau rhag datblygu, profi, cynhyrchu, gwneuthur, trosglwyddo, meddu, crynhoi, defnyddio neu fygwth defnyddio arfau niwclear, neu ganiatáu cadw neu leoli arfau niwclear gwlad arall ar eu tiriogaeth nhw. Mae’r cytundeb hefyd yn gwahardd gwladwriaethau rhag cynorthwyo, annog neu gymell unrhyw un i weithredu yn yr un o’r ffyrdd hynny. Cytundeb ar Wahardd Arfau Niwclear Pleidleisiodd y Senedd i gefnogi’r CWAN fel rhan o gynnig ar Ukrain

Ynni niwclear

Mae’r adwaith cadwyn y tu fewn i graidd adweithydd niwclear yn cynhyrchu plwtoniwm, y gellir ei wahanu o’r tanwydd gwastraff a’i ailbrosesu i wneud arfau niwclear. Mewn gwirionedd, cynllun cyfrinachol i gynhyrchu plwtoniwm ar gyfer y bomiau atomig cyntaf oedd project Atomau dros Heddwch llywodraeth y DU yn y 1950au. Cadarnhawyd bellach y defnyddiwyd Trawsfynydd ac Wylfa A hwythau i’r diben hwnnw. O’r cychwyn, dwy ochr i’r un geiniog oedd ynni niwclear milwrol a ‘sifil’. Ynni Niwclear Dyddiadur Fukushima

Gwastraff Niwclear

Gwastraff Niwclear

Rhagor o wybodaeth:

Dadl Adnewyddu Trident yn San Steffan 18fed Gorffennaf 2016 Dadl Adnewyddu Trident yn y Cynulliad 18fed Tachwedd 2015 Militareiddio Cymru