Polisi Preifatrwydd

CND Cymru a’r Ddeddf Diogelu Data

Mae CND Cymru yn gysylltiedig ag CND Prydeinig, sydd wedi ei gofrestru o dan y Ddeddf Diogelu Data. Rhaid i’r ddau fudiad ufuddhau i’r gyfraith ynglŷn â chasglu, cadw a defnyddio data personol.

Mae gan CND Cymru restr o enwau a chyfeiriadau’r holl aelodaeth, a ddefnyddir yn unig i bostio Heddwch ac unrhyw wybodaeth arall at aelodau.

Mae hefyd yn cofnodi rhifau ffôn a chyfeiriadau ebost yr aelodau hynny sy’n cynnwys y wybodaeth hon ar eu ffurflenni aelodaeth.

Mae CND Cymru hefyd yn cofnodi ai yn y Gymraeg neu’r Saesneg y cwblhawyd eich ffurflen aelodaeth er mwyn gwybod pa iaith i’w defnyddio wrth gysylltu’n uniongyrchol â chi.

Ni chedwir manylion cyfrifon banc aelodau gan CND Cymru. Os ydych yn talu trwy orchymyn banc, anfonir eich ffurflen â’ch manylion banc yn syth at eich banc; ni chedwir yr un copi gan CND Cymru.

Os ydych yn talu trwy orchymyn banc, byddwn hefyd yn cofnodi’r cod sy’n ymddangos ar ein datganiad banc ar gyfer eich taliad. Fel rheol, nid fydd hynny’n fwy na rhan o’ch blaenlythrennau a’ch enw, a/neu eich rhif aelodaeth CND Cymru. Nid yw’n cynnwys manylion eich cyfrif banc.

Nid throsglwyddir dim o’r wybodaeth hon i unrhyw sefydliad neu unigolyn arall ac eithrio yn yr amgylchiadau a ganlyn:

  • byddwn yn anfon enwau a chyfeiriadau aelodau cyfredol at CND Prydeinig, sy’n ymateb yn gyfatebol trwy anfon atom enwau a chyfeiriadau rhai sy’n byw yng Nghymru ac sydd wedi ymaelodi ag CND Prydeinig
  • dim ond mewn perthynas â busnes CND Cymru y byddwn yn trosglwyddo eich manylion aelodaeth i sefydliad neu unigolyn arall, a hynny ddim ond gyda’ch caniatâd diamwys

Pan anfonir ebyst at grwpiau o aelodau, mae’r holl gyfeiriadau ynghudd (h.y. ni all neb sy’n derbyn yr ebost weld cyfeiriadau neb arall yr anfonwyd yr ebost atynt).

Cedwir y gronfa ddata ar un cyfrifiadur diogel, a gwneir copïau wrth gefn diogel fel sy’n briodol, ond byth ar weinydd neu gwmwl, neu ar gofbinnau neu unrhyw ddulliau storio data eraill yr eir â nhw i fan arall.

Nid yw ein gwefan, llythyrau newyddion, ffurflenni aelodaeth a deunydd cyhoeddedig arall yn cynnwys manylion personol ac eithrio manylion cyswllt swyddogion CND Cymru, aelodau pwyllgorau ac unrhyw un arall sy’n dymuno bod eu manylion cyswllt ar gael.

Ni fyddwn yn ffonio aelodau fel rhan o ymgyrch farchnata. Yr unig reswm dros ffonio aelodau fyddai i geisio eglurdeb ynglŷn â manylion aelodaeth neu i’w hysbysu o ddigwyddiadau.

Nid yw ein gwefan yn defnyddio cwcis, felly ni chedwir yr un cofnod o bwy sy’n defnyddio’r wefan.

Rhwygir hen ffurflenni’n ddarnau cyn cael gwared ohonynt.

Os ydych yn dymuno dileu rhai neu’r cwbl o’ch manylion personol o’n cronfa ddata, fe wnawn hynny yn llwyr ac yn barhaol.

Cymeradwywyd yng nghyfarfod Cyngor CND Cymru, 3ydd Rhagfyr 2015. Adolygir y polisi yn flynyddol.