Caerdydd

Mae 40 mlynedd ers i Gymru basio’r Datganiad Di-Niwclear. Anaml y bu statws Cymru fel parth di-niwclear yn fwy dan fygythiad nag y mae ar hyn o bryd. Dyna pam rydyn ni’n gofyn i chi neilltuo ychydig funudau i gysylltu â’ch Aelodau o’r Senedd yn eu hannog i fynychu Arddangosfa a digwyddiad ‘Cymru Ddi-Niwclear yn 40’ CND Cymru sy’n cael ei gynnal yn y Senedd ar Rhagfyr 6ed 12:00-3:30. Bydd y siaradwyr yn cynnwys Jill Evans, cadeirydd CND Cymru, Dr Rebecca Johnson, Mike Hedges AS, Mick Antoniw AS, Mabon ap Gwynfor AS, Jane Dodds AS.

Bydd eich Aelod Senedd eisoes wedi derbyn gwahoddiad, yn amlinellu’r agenda lawn; annogwch nhw i fynychu’r cyfarfod, os gwelwch yn dda.