Apêl Dinasoedd ICAN

Dinasoedd ydy’r targed mwya’ tebygol o arfau niwclear. Mae cannoedd o ddinasoedd a chynghorau wedi dangos eu cefnogaeth o’r Cytundeb ar Wahardd Arfau Niwclear yn barod, trwy basio’r cynnig isod:

“Testun pryder dwys i’n dinas/tref yw bygythiad difrifol arfau niwclear i gymunedau ledled y byd. Credwn yn gryf fod gan ein trigolion yr hawl i fyw mewn byd sy’n rhydd o’r bygythiad hwn. Byddai defnyddio arfau niwclear mewn unrhyw fodd, boed yn fwriadol neu’n ddamweiniol, yn arwain at ganlyniadau trychinebus, pell-gyrhaeddol a hir-hoedlog i bobl a’r amgylchedd. Felly, yr ydym yn cefnogi’r Cytundeb ar Wahardd Arfau Niwclear ac yn galw ar ein llywodraethau i’w lofnodi a’i gadarnhau.”

Cynghorau Sir yng Nghymru sydd wedi pasio cynnig yn cefnogi’r Apêl Dinasoedd ICAN:

Abertawe, Gwynedd, Merthyr Tydfil

Cynghorau Dinas yng Nghymru sydd wedi pasio cynnig yn cefnogi’r Apêl Dinasoedd ICAN:

Abertawe, Bangor

Cynghorau llai yng Nghymru sydd wedi pasio cynnig yn cefnogi’r Apêl Dinasoedd ICAN:

Aberystwyth, Nefyn