Gwastraff Niwclear

Gwastraff Niwclear: Problem Fawr Pŵer Niwclear heb ei Hateb

Mae gorsafoedd pŵer niwclear a chynhyrchu arfau niwclear yn creu gwastraff niwclear sy’n
rhaid ei gadw rhag pobl a’r amgylchedd am filoedd o flynyddoedd. Does yr un cyfleuster storio gwastraff ymbelydrol lefel-uchel tymor-hir yn bod yn unlle yn y byd.

Beth yw gwastraff ymbelydrol?

Pan ddaw tanwydd wraniwm hesb allan o adweithydd niwclear, mae’n ymbelydrol iawn. Mae ymbelydredd yn dirywio’n naturiol dros amser, felly rhaid cadw gwastraff ymbelydrol mewn stordai diogel tan nad yw’n peryglu iechyd pobl mwyach. Mae’r cyfnod o amser yn amrywio yn ôl y math o wastraff, o rai diwrnodau gydag isotopau byrhoedlog i filiynau o flynyddoedd
ar gyfer gwastraff ymbelydrol lefel-uchel.

Beth a wneir â gwastraff ymbelydrol ar hyn o bryd?

Caiff gwastraff niwclear ei storio ar safle’r orsaf bŵer niwclear yn y lle cyntaf, cyn cael ei anfon i Sellafield. Caiff gwastraff lefeluchel ei drin i echdynnu plwtoniwm ar gyfer arfau niwclear, ac yna’i storio yn Sellafield. Caiff gwastraff lefel-isel ei storio yn Drigg ger Sellafield, sydd mewn perygl wrth I lefelau’r môr godi, gan ei fod ger yr arfordir.

Ymbelydredd a phroblemau iechyd

Gall ymbelydredd achosi niwed i strwythurau DNA ac ensymau celloedd byw, ac arwain ar ganser a llawer o effeithiau andwyol eraill ar iechyd. Yn 2008 nododd ymchwil gan lywodraeth yr Almaen gynnydd mewn lewcemia a mathau eraill o ganser ymhlith plant yn byw o fewn 5km i bob un o 16 gorsafoedd niwclear y wlad. Ers damwain Chernobyl ym 1986, mae disgwyliad oes yn Belarus wedi gostwng o 20 mlynedd. Ni wyddom o hyd beth fydd holl effeithiau niweidiol trychineb 2011 Fukushima yn Japan ar iechyd.

Beth yw cost hyn oll?

Defnyddir dau draean o gyllideb Adran Ynni a Newid Hinsawdd y llywodraeth Brydeinig ar wastraff niwclear ac ar lanhau a diheintio cyfleusterau niwclear. Bydd cost ceisio cadw gwastraff niwclear yn ddiogel yn faich ariannol am byth!

Felly beth yw’r ateb?

Does dim ateb gwyddonol i broblem gwastraff niwclear – ddim ar gyfer gwastraff y 60 mlynedd diwethaf o gynhyrchu, nac ar gyfer gwastraff a gynhyrchir yn y dyfodol. Y cam cyntaf amlwg yw peidio â chreu mwy o wastraff ymbelydrol – a’r ail gam yw sicrhau y cedwir yr holl wastraff presennol:

  • wedi ei ynysu oddi wrth yr ecosystem
  • heb ei ailbrosesu mewn unrhyw ffordd
  • heb ei symud, wedi ei storio yn agos at lle cafodd ei gynhyrchu
  • wedi ei fonitro beunydd
  • wedi ei storio ar yr wyneb, â labelu clir
  • wedi ei storio ar safleoedd wedi eu harwyddo a’u gwarchod yn dda
  • â chofnodion manwl amdano ar gyfer cenedlaethau i ddod, ac
  • ag adnoddau ariannol wedi eu neilltuo ar gyfer cynnal safleoedd storio

Cynghorau sydd wedi gwrthod cael Cyfleuster Gwaredu Daearegol – h.y. storfa gwastraff niwclear tanddaearol:

Cynghorau Sir: Abertawe, Castell Nedd Port Talbot, Ceredigion, Dinbych, Powys, Ynys Môn

Cynghorau Dinas neu Dref: Aberystwyth, Bangor, Caerffili, Caerfyrddin, Caernarfon, Cei Connah, Crughywel, Cwmaman, Ffestiniog, Llanandras a Norton, Llwchwr, Pontarddulais, Pontypridd, Porthmadog, Trefdraeth, Treffynnon, Tregaron, Y Bala, Y Trallwng

Cynghorau Cymuned: Abenbury, Abertridwr, Acton, Arthog, Bausley a’r Crugion, Beddgelert, Bethesda, Bodedern, Brymbo, Buan, Cas-lai, Cilgeti-Begeli, Cilybebyll, Cilycwm, Esclusham, Felinfach, Ffynnon Taf a Nantgarw, Ganllwyd, Gelligaer, Gorslas, Gwernaffield a Phantymwyn, Johnston, Llanbadrig, Llanbradach a Phwllypant, Llandderfel, Llandygai, Llanedi, Llanengan, Llanfair Dyffryn Clwyd, Llangeitho, Llangelynnin, Llangynog, Llanidloes y tu allan, Llanllechid, Llannon, Llanrhidian Uchaf, Llanycil, Maesyfed, Mawddwy, Mechell, Mochdre a Phenstrowed, Mostyn, Offa, Owrtyn Fadog, Parc Caia, Pennard, Pentraeth, Pentyrch, Pont Fadlen, Redwick, Rhossili, Shirenewton, Tawe Uchaf, Trewern, Tudweiliog, Y Betws, Ysgubor y Coed

Ydy’ch cyngor sir, a’ch cyngor tref neu gymuned, wedi gwrthod cael storfa gwastraff niwclear tanddaearol ?

Os nad ydyn, beth am ysgrifennu at eich cynghorwyr yn gofyn iddynt awgrymu y dylai’r cyngor gwrthod cael storfa gwastraff niwclear tanddaearol ?