Trident a’i Olynydd; Arfau Niwclear Brydain

Bom Niwclear Prydain

Adnewyddu Trident
Yng Nghymru, rydym yn dioddef yr argyfwng economaidd gwaethaf mewn cenedlaethau. Mae llywodraeth San Steffan yn bwrw ymlaen â gwario biliynau o bunnau ar adnewyddu system arfau niwclear Trident anfoesol ac anghyfreithlon Prydain, tra’n gwneud toriadau hallt i’n gwasanaethau cyhoeddus. Y bwriad yw y byddai unrhyw olynydd i’r llongau tanfor Vanguard sy’n cludo taflegrau Trident yn dechrau gwasanaethu yn gynnar yn y 2030au.
Pe câi Prydain wared o’i harfau niwclear, byddai hynny’n gosod esiampl i wledydd eraill sydd ag arfau niwclear neu rai sy’n eu chwennych, a allai greu momentwm tuag at gytundeb i wahardd arfau niwclear ledled y byd.

Trident
Sail system arfau niwclear bresennol Prydain yw 4 llong danfor niwclear dosbarth Vanguard sy’n cludo hyd at 8 taflegryn Trident yr un. Dechreuodd y llongau tanfor wasanaethu ym 1994, ac mae rhedeg Trident yn costio o leiaf £2 biliwn y flwyddyn i drethdalwyr Prydain – ffigwr sy’n cynyddu.

Llongau tanfor Trident
Adeiladwyd y 4 llong danfor niwclear Vanguard, a leolir yn Faslane yn yr Alban, i bara am oes 25 mlynedd o hyd, sy’n golygu tan y 2020au hwyr. Mae un llong danfor ar batrôl beunydd, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, tra gwneir gwaith cynnal a chadw ar ail long danfor fel arfer, gyda’r ddwy arall yn yr harbwr neu ar ymarferion hyfforddi.

Taflegrau ac ergydion Trident
Arfogir y llong danfor Trident sydd ar batrôl â mwyafswm o 8 o daflegrau niwclear, pob un â hyd at 5 o ergydion y gellir eu hanelu’n unigol. Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn (WA) yn rhentu’r taflegrau Trident gan Lywodraeth yr UD, sydd hefyd yn eu cynnal a’u cadw. Disgwylir i’r taflegrau Trident barhau mewn gwasanaeth tan 2042 o leiaf.
Mae gan bob ergyd bŵer ffrwydrol cyfwerth â hyd at 100 kiloton o uwch-ffrwydryn confensiynol: 8 gwaith grym bom atomig yr UD a laddodd fwy na 150,000 o bobl yn Hiroshima ym 1945.
Dros y blynyddoedd nesaf, mae’r llywodraeth yn bwriadu ailwampio’r ergydion hyn i’w gwneud yn fwy cywir ac yn fwy dinistriol. Caiff yr ergydion eu cydosod, a’u cynnal a’u cadw yn Sefydliadau Arfau Atomig (SAA) Aldermaston a Burghfield yn ne-ddwyrain Lloegr ac fe’u cludir ar hyd y ffyrdd i’w storio yn Coulport yn yr Alban. Mae’r stoc o ergydion yn cael ei leihau ar hyn o bryd o “ddim mwy na 225” i “ddim mwy na 180”.

Rhaglen adnewyddu Trident
Cafwyd y bleidlais Seneddol gyntaf ar olynu’r llongau tanfor Vanguard sy’n cludo taflegrau Trident yn 2007, pan amlinellodd Tony Blair gynlluniau i wario “hyd at £20 biliwn” ar longau tanfor “Olynol” newydd. Yn 2016, pleileisiodd y Senedd o blaid bwrw ati i ddatblygu’r llongau tanfor Olynol am gost o “£31 biliwn gyda chyllideb wrth gefn o £10 biliwn”.
Mae dewisiadau amgen yn lle adeiladu 4 llong danfor Olynol newydd i gludo taflegrau Trident, a fyddai’n galluogi Prydain i gadw arfau niwclear, yn cynnwys:
• dim newid o gwbl ac ymestyn oes y llynges Trident bresennol
• addasu llongau tanfor ag arfau confensiynol i gludo taflegrau cruise ag ergydion niwclear
• tynnu’r ergydion niwclear oddi ar y taflegrau yn ystod gweithrediadau normal
• adeiladu dim ond 3 llong danfor, a fyddai ag angen llai o ergydion a thaflegrau (a allai wneud polisi’r llywodraeth o fod ag un llong danfor ar “batrôl parhaus” bob amser yn fwy anodd)
Er bod unrhyw gwtogi ar daflegrau ac ergydion yn gam i’r cyfeiriad iawn, byddai adnewyddu’r system Trident mewn gwirionedd yn golygu ailarfogi yn hytrach na diarfogi, yn “uwchraddiad” o ran bod yn fwy “effeithiol” yn ei nod o ladd, anafu a dinistrio ar raddfa anferthol.
Mae’r mwyafrif o bobl ym Mhrydain o blaid dileu arfau niwclear Prydeinig yn llwyr.

A ydy Trident yn annibynnol?
Mewn theori, dim ond Prif Weinidog Prydain allai benderfynu tanio’r taflegrau niwclear. Fodd bynnag
• cynhyrchir cydrannau di-niwclear allweddol yr ergydion yn UDA
• gwneir profion ar ddyluniad ergydion y DU mewn labordai yn yr UD
• rhentir y taflegrau Trident oddi wrth UDA, sydd hefyd yn ei gwasanaethu
• cyflenwir wraniwm wedi ei dra-gyfoethogi ar gyfer adweithyddion niwclear y llongau tanfor gan yr UD
• cyflenwir tritiwm ar gyfer yr ergydion niwclear gan yr Unol Daleithau
Yn ei gofiant, A Journey, dywedodd Tony Blaid ei bod yn “frankly inconceivable” y gallai’r DU byth ddefnyddio Trident heb gymeradwyaeth yr UD. Heb gyfranogiad gweithredol UDA, ni ellid defnyddio Trident – mae i ni ei ddefnyddio mor ddibynnol ar yr UD fel mai ffwlbri yw credu ei fod yn annibynnol.

Pwy fydd yn elwa?
Y cwmnïau Prydeinig sy’n disgwyl elwa ar unrhyw benderfyniad i adnewyddu Trident yw BAE Systems, Rolls Royce, Babcock Marine a Serco (sy’n gweithio yn SAA Aldermaston).
Y cwmnïau o’r UD sy’n disgwyl elwa ar olynydd i Trident yw Lockheed Martin (prif bartner o blith y tri chwmi sy’n rhedeg SAA Aldermaston) a Jacobs Engineering (hefyd yn SAA Aldermaston).

Cyfreithlondeb
Ym 1970, arwyddodd Prydain y Cytundeb Atal Ymlediad Niwclear, y mae Erthygl VI ohono yn ein rhwymo i negydu cytundeb i wahardd arfau niwclear:
“Mae pob Parti i’r Cytundeb yn ymrwymo i negydu’n ddiffuant ar fesurau effeithiol yn ymwneud â diweddu’r ras arfau niwclear ar ddyddiad buan ac â diarfogi niwclear, ac ar Gytundeb ar ddiarfogi niwclear cyffredinol a llwyr o dan reolaeth ryngwladol gaeth ac effeithiol.”
Ym 1996, rhoddodd y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol Farn Gynghorol y byddai defnyddio neu fygwth defnyddio arfau niwclear, yn y mwyafrif o achosion, yn torri’r gyfraith ryngwladol, yn cynnwys Cytundebau Genefa, Cytundeb yr Hâg, Siarter y CU, a’r Datganiad Hawliau Dynol Hollgyffredinol.
Yn 2005, rhoddodd Rabinder Singh QC a’r Athro Christine Chinkin farn gyfreithiol a ddadleuai: “Byddai defnyddio Trident yn groes i gyfraith ryngwladol arferol, yn enwedig am y byddai’n tramgwyddo’r egwyddor bod yn rhaid gwahaniaethu rhwng ymladdwyr ac anymladdwyr.” Mynnai’r farn gyfreithiol hefyd “y byddai sicrhau olynydd i Trident yn debyg o fod yn tramgwyddo Erthygl VI o’r Cytundeb Atal Ymlediad Niwclear”.
Gwrthododd Prydain gymryd rhan yn y negydu a arweiniodd at greu’r Cytundeb ar Wahardd Arfau Niwclear, y cytunwyd arno gan 122 o wledydd ym mis Gorffennaf 2017, y gall gwledydd ddechrau ei arwyddo o fis Medi 2017. Yn wir, mynegodd Syr Michael Fallon farn y llywodraeth yn Senedd San Steffan: “Fydd y DU byth yn arwyddo, cadarnhau neu fynd yn rhan o’r cytundeb i wahardd arfau niwclear.”

Yr Alban
Ers hanner canrif a mwy, defnyddiwyd yr Alban gan San Steffan fel canolfan ar gyfer yr arfau peryglus ac anfoesol hyn.
Pleidleisiodd mwyafrif ASau yr Alban ac ASAau yn erbyn olynu Trident, gyda chefnogaeth y rhan fwyaf o eglwysi, undebau llafur a chymdeithas ddinesig yr Alban. Nododd y Pwyllgor Materion Albanaidd y gallai annibyniaeth i’r Alban arwain at ddiarfogi niwclear i Brydain, ac mae’n cytuno bod amserlen CND yr Alban ar gyfer diarfogi Trident o fewn dyddiau a chael gwared o’r holl ergydion niwclear o fewn dwy flynedd yn realistig.
Does yna’r unlle arall ym Mhrydain y gall Trident fynd iddo

Polisi yswiriant?
Dywed y llywodraeth yn aml bod arfau niwclear Prydain yn bolisi yswiriant yn erbyn dyfodol ansicr. Ond rhyw bolisi yswiriant od iawn sydd yn cynyddu’r peryglon y dylai fod yn ein gwarchod rhagddynt! Bob tro y mynn y llywodraeth Brydeinig fod ein diogelwch yn dibynnu ar arfau niwclear, gall gwledydd eraill ddadlau yn yr un modd a thrwy hynny “gyfiawnhau” sicrhau arfau niwclear. Wrth i’r nifer o wledydd ag arfau niwclear gynyddu, cynyddu hefyd a wna’r perygl y caiff arfau niwclear eu defnyddio yn ddamweiniol neu’n fwriadol.
Yr unig beth all ddiogelu yn erbyn arfau niwclear fydd cytundeb rhyngwladol yn gwahardd arfau niwclear ledled y byd.

Rhan Prydain yn y byd
Byddai Prydain yn rhydd o arfau niwclear mewn sefyllfa i chwarae rhan flaenllaw mewn negydu gwaharddiad rhyngwladol ar arfau niwclear. Mewn byd sy’n fwyfwy bregus yn amgylcheddol, gallem wedyn chwarae rhan mewn cyfryngu gwrthdaro rhyngwladol yn heddychlon a chreu byd mwy cyfiawn i bawb.
Mae Prydain yn aelod parhaol o Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig, ond nid am fod gennym arfau niwclear; fe’n gwnaed yn aelod parhaol flynyddoedd cyn bod gennym arfau niwclear. Felly ni ddylai mynd yn wladwriaeth heb arfau niwclear olygu colli ein sedd ar y Cyngor Diogelwch o anghenraid. A phrin y byddai’r 160 a mwy o wledydd sydd heb arfau niwcler, sydd am weld eu gwahardd, yn debyg o gytuno y dylai Prydain gael ei “chosbi” yn y modd hwn am fynd yn wladwriaeth ddi-arfau niwclear fel hwythau!

Y Gost
Mae amcangyfrifon y llywodraeth o gostau adnewyddu system Trident wedi cynyddu’n gyson, o £11-14 biliwn yn 2006, i £25 biliwn yn 2014, i £31 biliwn yn 2015. Nododd yr Independent ar y 25 Hydref 2015 y byddai cost adnewyddu’r system Trident dros ei hoes, yn ôl asiantaeth newyddion Reuters, yn £167 biliwn – 6% o’r gyllideb amddiffyn dros oes y system.
Cred yr Ymgyrch dros Ddiarfogi Niwclear mai’r gwir gost erbyn hyn fydd rhyw £205 biliwn.
Byddai £205 biliwn yn ddigon o arian
• i dalu’n llawn am wasanaethau A&E am 48 blynedd, neu
• adeiladu 120 o ysbytai â’r cyfarpar diweddaraf, neu
• gyflogi 150,000 o nyrsys ac athrawon newydd y flwyddyn am y 30 mlynedd nesaf, neu
• adeiladu 3 miliwn o gartrefi fforddiadwy, neu
• dalu am osod paneli solar ar bob cartref yn y DU, neu
• fuddsoddi £5 biliwn ychwanegol y flwyddyn mewn ynni adnewyddadwy (8 gwaith y gyllideb bresennol) am y 40 mlynedd nesaf, neu
• gael gwared o ffioedd dysgu myfyrwyr ar gyfer 8 miliwn o fyfyrwyr