Ymrwymiad Seneddol

Addewid Seneddol o blaid y

Cytundeb ar Wahardd Arfau Niwclear

Yr ydym ni, y seneddwyr sydd wedi arwyddo isod, yn croesawu’n gynnes y penderfyniad i fabwysiadu Cytundeb y CU ar Wahardd Arfau Niwclear ar 7 Gorffennaf 2017 fel cam pwysig tuag at fyd yn rhydd o arfau niwclear.

Rydym yn rhannu’r pryder dwys a fynegir yn y rhagarweiniad parthed canlyniadau dynol trychinebus a fyddai’n deillio pe gwneid unrhyw ddefnydd o arfau niwclear, a chydnabyddwn yr angen, o ganlyniad, am ddileu’r arfau annynol ac erchyll hyn.

Fel seneddwyr, ymrwymwn i weithio i sicrhau bod ein gwahanol wledydd yn arwyddo a chadarnhau’r cytundeb hanesyddol hwn, gan ein bod o’r farn bod diddymu arfau niwclear yn ddaioni cyhoeddus o’r pwys mwyaf i’r holl fyd ac yn gam hanfodol i hyrwyddo diogelwch a llesiant holl bobloedd y byd.

Rhestr o wleidyddion Cymreig sydd wedi llofnodi’r addewid yn barod:

Aelodau o’r Senedd: Rhys ab Owen AS, Mick Antoniw AS, Mabon ap Gwynfor AS, Rhun ap Iorwerth AS, Jayne Bryant AS, Cefin Campbell AS, Jane Dodds AS, Luke Fletcher AS, Heledd Fychan AS, John Griffiths AS, Peredur Owen Griffiths AS, Llyr Gruffydd AS, Siân Gwenllian AS, Mike Hedges AS, Delyth Jewell AS, Elin Jones AS, Adam Price AS, Jenny Rathbone AS, David Rees AS, Carolyn Thomas AS, Sioned Williams AS

Aelodau Seneddol: Jonathan Edwards AS, Ruth Jones AS, Ben Lake AS, Liz Saville Roberts AS, Jo Stevens AS, Hywel Williams AS, Beth Winter AS

Ydy pob un o’ch gwleidyddion etholedig wedi llofnodi ?

Os nad ydyn, beth am ofyn iddynt lofnodi ?

I gyd sydd angen i’w wneud yw ysgrifennu neges bir, yn eich geiriau’ch hunan, yn gofyn iddynt lofnodi, gan gynnwys yr addewid ddwyieithog, gyda’ch enw a chyfeiriad (er mwyn iddynt wybod eich bod chi’n byw yn eu hetholaeth).

Gallech chi ddod o hyd i gyfeiriadau e-bost (neu gyfeiriadau post) am eich

Aelodau o’r Senedd: yma

Aelodau Seneddol: yma

Mae rhestr o’r holl wleidyddion y byd sydd wedi arwyddo Addewid Seneddwyr ICAN ar gael yma

Llofnodwyr blaenorol: Dai Lloyd AS, Carwyn Jones AS, Helen Mary Jones AS, Neil McEvoy AS, Bethan Sayed AS, Rhodri Glyn Thomas AS, Leanne Wood AS; Jane Dodds AS, Paul Flynn AS; Jill Evans ASE, Derek Vaughan ASE