Cefnogaeth y Senedd am y CWAN

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn gresynu at ymosodiad Ffederasiwn Rwsia ar Wcráin.

2. Yn mynegi undod â phobl Wcráin.

3. Yn cydnabod bod pobl Wcráin yn dioddef o ganlyniad i golli bywyd ac anafiadau, gan dalu’r pris am y rhyfel erchyll hwn.

4. Yn cydnabod hawliau NATO i amddiffyn ei aelodau ac yn cefnogi Llywodraeth Wcráin wrth iddi amddiffyn ei gwlad.

5. Yn croesawu’r camau y mae Llywodraeth Cymru’n eu cymryd i ddarparu cymorth dyngarol i’r rhai mewn angen a lloches ddiogel i’r rhai sy’n dianc rhag y gwrthdaro.

6. Yn galw ar Lywodraeth y DU i weithredu ar frys i:

a) cyflwyno proses fisa gyflym i sicrhau dulliau syml, cyflym, diogel a chyfreithlon o gyrraedd noddfa yn y DU;

b) dileu’r gofyniad i Wcraniaid ddarparu tystiolaeth fiometrig cyn gadael Wcráin;

c) rhoi rhagor o fanylion am y cynlluniau adsefydlu a’r cyllid dilynol y bydd ei angen i gefnogi’r ymdrechion adsefydlu.

7. Yn cydnabod bod y gwrthdaro hwn yn cynyddu’r risg o ryfel niwclear ac ofn rhyfel niwclear ymhlith pobl yng Nghymru a thu hwnt, ac felly’n galw ar bob gwladwriaeth, gan gynnwys y gwladwriaethau niwclear i lofnodi a chadarnhau Cytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Wahardd Arfau Niwclear a ddaeth i rym ym mis Ionawr 2021, ac a fyddai’n atal bygythiad o’r fath yn y dyfodol.

O blaidYmatalYn erbynCyfanswm
26151354

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. (9fed Mawrth 2022)

Gallwch weld sut mae Aelodau o’r Senedd wedi pleidleisio yma