ICAN – Yr Ymgyrch Ryngwladol i Ddiddymu Arfau Niwclear

ICAN – Yr Ymgyrch Ryngwladol i Ddiddymu Arfau Niwclear

Arfau niwclear yw’r arfau gwaethaf a grëwyd erioed; maent yn fygythiad difrifol a chynyddol i’r ddynolryw. Mae naw gwlad niwclear-arfog y byd yn cynnal ac yn moderneiddio’u harfogaethau niwclear, a chyhoeddodd y DU y byddai’n cynyddu eu nifer am y tro cyntaf ers degawdau. Mae’r risg y caiff arfau niwclear eu defnyddio bellach yn fwy nag ydoedd pan oedd y Rhyfel Oer yn ei anterth.  

Mewn ymateb i ddealltwriaeth gynyddol o effaith annynol yr arfau diwahân hyn, gwaharddwyd arfau niwclear o dan y Cytundeb ar Wahardd Arfau Niwclear (TPNW). Daeth y cytundeb yn gyfraith ryngwladol ym mis Ionawr 2021. Mae’r TPNW yn gwahardd defnyddio, cynhyrchu, trosglwyddo, gweithgynhyrchu, profi a datblygu arfau niwclear yn ogystal ag unrhyw fodd o gynorthwyo’r gweithgareddau gwaharddedig hyn.   

Mae’r cytundeb yn cwblhau’r drindod o arfau dinistr torfol. Wedi’r gwaith a ddechreuodd yn y 1970au, pan waharddwyd arfau cemegol, trwy waharddiad arfau biolegol y 1990au, bellach mae arfau niwclear hefyd wedi’u gwahardd. Mae’r gwaharddiad ar arfau dinistr torfol eraill wedi peri i bron bob gwlad ddiddymu’r arfau hyn o’u harfogaeth – er i hynny gymryd amser. Bellach, mae unrhyw un sy’n awgrymu y gellid defnyddio arfau cemegol neu fiolegol, neu awgrymu bod eu hangen ar gyfer diogelwch (fel y gwnaeth cynghrair NATO yn y 1970au) yn destun beirniadaeth lem a phwysau rhyngwladol dwys.   

Yr Ymgyrch Ryngwladol i Ddiddymu Arfau Niwclear yw’r sefydliad a gydlynodd yr ymdrechion i greu Cytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Wahardd Arfau Niwclear 2017 (TPNW) ac, o ganlyniad, dyfarnwyd iddi Wobr Heddwch Nobel am ein hymdrechion. 

Mae ICAN yn glymblaid ymgyrchu. Ar hyn o bryd, ceir mwy na 600 o bartneriaid ICAN o 107 o wledydd. Y glymblaid sy’n gyrru’r ymgyrch, a thrwy waith gyda phartneriaid ar draws y byd, gallwn symud y drafodaeth ar arfau niwclear yn ei blaen. 

Mae deall y TPNW yn rhan o’n gwaith ymgyrchu. Dyma’r unig gytundeb amlochrog a negydwyd  erioed sy’n mynnu bod rhaid i ddiarfogi niwclear gael ei ddilysu. Rhaid i wledydd heb arfau niwclear sy’n ymuno â’r cytundeb brofi eu statws trwy gyflwyno datganiadau i’r perwyl hwnnw. Gall gwledydd sydd ag arfau niwclear, ac sydd am ymuno, naill ai ddinistrio’r arfau cyn ymuno, neu ymuno ac yna negydu dinistr eu harfogaeth. 

Mae’r TPNW yn gorfodi gwledydd niwclear-arfog yn y lle cyntaf i dynnu eu harfau niwclear yn ôl o fod ‘ar wyliadwraeth’, a’u gwneud yn anweithredol. Gallai hynny olygu, er enghraifft, gwahanu’r taflegrau a’u hergydion niwclear, a storio’r naill a’r llall mewn gwahanol leoliadau. 

Gwna’r cytundeb hi’n ofynnol i unrhyw wlad niwclear-arfog sy’n ymuno i negydu cynllun ag iddo derfyn amser pendant gydag aelodau eraill y cytundeb, i wirio dinistr ei  holl arfogaeth. Yna bydd gofyn i’r wlad honno osod mesurau diogelwch cynhwysfawr ar bob cyfleuster yn y wlad sy’n gysylltiedig ag arfau niwclear. Yn derfynol, rhaid i bob arf gael ei ddinistrio’n llwyr a rhaid cyfaddasu’r cyfleusterau cynhyrchu a gweithgynhyrchu, seilwaith unrhyw raglen arfau niwclear, fel na ellir byth eto eu defnyddio ar gyfer arfau niwclear. 

Nid yw pob gwlad yn barod i ymuno â’r cytundeb eto. Mae ICAN a’i bartneriaid yn cynyddu’r pwysau arnynt i’w cymell i ymuno. Mae sawl ffordd y gall pobl gymryd rhan. 

Dinasoedd  

Mewn chwinciad llygad bydd ffrwydrad niwclear yn dileu canolfan ddinesig yn llwyr, gan ddifa bywydau dirifedi, dinistrio pob seilwaith a gwenwyno’r amgylchedd. Nid mater damcaniaethol mo hyn: dinasoedd yw prif dargedau arfau niwclear. Ledled y byd, mae dinasoedd yn ymuno ag eraill i alw ar eu llywodraeth i arwyddo’r Cytundeb ar Wahardd Arfau Niwclear. Mae meiri a chynghorau dinas mewn rhai mannau yn mynd gam ymhellach, ac yn mynnu bod y ddinas yn gwrthod ymwneud â chwmnïau sy’n gyfrannog â’r diwydiant niwclear. Deddfodd Dinas Efrog Newydd i’r perwyl hwn ym mis Rhagfyr 2021; ledled y byd mae cynghorau dinas yn cychwyn ar y broses o ddod ag unrhyw ymwneud ariannol â’r diwydiant arfau niwclear i ben. 

Seneddwyr 

Mae deddfwneuthurwyr mewn sefyllfa allweddol i hyrwyddo’r Cytundeb ar Wahardd Arfau Niwclear yn fyd-eang trwy bwyso am ei lofnodi a’i gadarnhau neu ei hyrwyddo mewn gwledydd tramor. Ymrwymodd dros 1600 o swyddogion etholedig ledled y byd i wneud hyn trwy Addewid Seneddol ICAN. 

Mae’r Addewid yn agored i seneddwyr o bob gwlad. Gall unrhyw aelod presennol o senedd neu gyngres genedlaethol, wladwriaethol/daleithiol neu ranbarthol lofnodi i ymuno â’r rhwydwaith byd-eang o seneddwyr sydd wedi ymrwymo i gael eu llywodraeth i ymuno â’r Cytundeb ar Wahardd Arfau Niwclear. 

Atal yr arian 

Cwmnïau sy’n adeiladu arfau niwclear a’u cydrannau allweddol. Buddsoddwyr sy’n darparu’r cyfalaf sydd ei angen ar y diwydiant arfau niwclear er mwyn ennill a chadw contractau. Ond mae buddsoddwyr bellach yn edrych ar fwy na dim ond elw ariannol, a swyddogaeth yr hyn mae’r diwydiant arfau niwclear yn ei adeiladu yw achosi niwed torfol diwahân, tramgwyddo hawliau dynol, a llygru’r amgylchedd. 

Dewis yw pob buddsoddiad. Dewisodd mwy na 100 o sefydliadau ariannol i beidio â buddsoddi yn y diwydiant arfau niwclear. Mae ICAN yn annog pob buddsoddwr sefydliadol, yn cynnwys cronfeydd pensiwn preifat a dinesig, banciau, rheolwyr asedau neu eglwysi, i atal buddsoddi annynol a llunio polisïau sy’n osgoi unrhyw ymwneud â’r diwydiant arfau niwclear. 

Mae’r holl weithredoedd hyn yn atgyfnerthu’r norm bod arfau niwclear yn annerbyniol, a’i bod hi bellach yn bryd eu gwneud yn rhan o hanes.