Wrcain

Wrcain

● Mae’r rhyfel ar Bobl Wrcain yn cynyddu’r bygythiad o ryfel niwclear byd-eang yn ogystal â thrychineb ecolegol, gan gynnwys y perygl o gamweithio gorsafoedd ynni niwclear yn Wcráin. Y canlyniadau anochel i hyn oll fydd salwch dynol eang, dinistr amgylcheddol enfawr, diffyg bwyd ac ynni a thlodi cynyddol a fydd yn effeithio ar bobl ledled y byd. Fel rheol, y rheiny sy’n dioddef fwyaf mewn rhyfel o unrhyw fath ydy’r tlawd a’r bregus, yr ifanc a’r henoed.

● Y mae’r dwysâd mewn dinistr ac ymddygiad ymosodol yn Wcráin yn cynyddu’r risg o ddefnyddio arfau niwclear. Byddai hyn yn bygwth nid yn unig yr Wcrainiaid ond pobl ledled y byd.

● Mae CND Cymru yn cydnabod bod yna lawer o Ddinasyddion Rwsiaidd sy’n gwrthwynebu gweithredoedd Llywodraeth Putin yn erbyn pobl Wcráin.

● Mae CND Cymru yn cydsefyll â sefydliadau o amgylch y byd i gondemnio goresgyniad Rwsia ar Wcráin ac i alw am heddwch. Rydym yn galw ar bob gwlad yn Ewrop i helpu osgoi rhyfel a thrychineb dyngarol trwy gynnig a chymeradwyo mesurau sy’n lleihau’r gwrthdaro.

● Rydym yn annog y gymuned ryngwladol i roi pwysau cryf ar Rwsia ac yn enwedig yr Unol Daleithiau i gymryd rhan mewn deialog a diplomyddiaeth, i ddychwelyd i gydymffurfio â Siarter y Cenhedloedd Unedig, parchu cyfraith ddyngarol a hawliau dynol rhyngwladol ac ymuno â chytundebau perthnasol i leihau risgiau arfau niwclear, gan gynnwys y Cytundeb ar Wahardd Arfau Niwclear.

● Nid yw galwad CND Cymru am ymdrech ddiplomyddol i ddatrys yr argyfwng gwleidyddol yn golygu cytuno â safbwyntiau gwleidyddol oddi fewn neu y tu allan i Wcráin. Ein bwriad yw cefnogi’r ataliad o wrthdaro afreolus sydd â’r potensial i droi’n rhyfel niwclear.

● Yn yr hirdymor, mae CND Cymru yn galw am ymddatod NATO fel y gellid buddsoddi adnoddau mewn cyflafareddu rhyngwladol difrifol a mynd i’r afael ag anghyfiawnder a’r trychineb hinsawdd.