Mae CND Cymru yn 40!

Mae CND Cymru yn 40!

Roedd y flwyddyn 1981 yn un dyngedfennol i fudiad heddwch Cymru. Roedd grwpiau CND lleol yn ymddangos ledled y wlad ac yn trefnu gorymdeithiau, cyfarfodydd cyhoeddus a deisebau. Cyhoeddwyd Protect and Survive, canllaw llywodraeth y DU ar sut i wneud ein cartrefi a’n teuluoedd “mor ddiogel â phosibl o dan ymosodiad niwclear” y flwyddyn flaenorol.

Ei awgrym oedd y gallem oroesi trwy gysgodi yn y twll dan grisiau! Fe’i dilynwyd yn gyflym gan bamffled rhagorol CND, Protest and Survive, gan yr hanesydd a’r ymgyrchydd heddwch EP Thompson, sy’n datgelu realiti rhyfel niwclear a thwyll creulon amddiffyn sifil.

Sefydlwyd CND Cymru yn ffurfiol yn y Drenewydd ym mis Medi 1981. Daeth y grwpiau CND gweithgar iawn a oedd eisoes yn bodoli ledled Cymru ynghyd i ffurfio corff cenedlaethol i gydlynu ac atgyfnerthu eu gwaith.

Fe’i crewyd oherwydd bod ei angen. Ni ellid cael amlygiad mwy o’i lwyddiant na’r datganiad tirnod ym 1982 bod Cymru’n wlad ddi-niwclear, gyda chefnogaeth pob un o’r wyth Cyngor Sir ar y pryd.

Roedd ofn gwirioneddol bod rhyfel Niwclear ar fin digwydd. Ysgogodd y cyhoeddiad bod 96 o daflegrau Cruise yr UD i gael eu lleoli yng ngwersyll yr Awyrlu ar Gomin Greenham yn Berkshire orymdaith arall a arweiniodd at greu gwersyll heddwch a aeth yn symbol byd-eang.

O dan faner Menywod dros Fywyd ar y Ddaear, ymadawodd menywod, plant a rhai dynion â Chaerdydd ar ddiwrnod poeth o Awst i gerdded i Greenham – a minnau yn eu plith. Ddeugain mlynedd yn ddiweddarach gallwn ddiolch i’r holl fenywod a fu’n rhan o’r brotest hynod, ddewr ac ysbrydoledig hon a lwyddodd yn y pen draw i waredu’r Comin o’i arfau niwclear erchyll ac adfer y tir i’r bobl.

Mae’r mudiad heddwch yng Nghymru wedi’I wreiddio yn y gymuned, a dyna’I nerth. Roedd yna fenywod Greenham ym mhob tref a phentref. Doedd rhai ohonynt erioed wedi bod i’r gwersyll ond gallent fod yn rhan o’r brotest ar lefel leol.

Roedd CND Cymru ym mhob man, yn union fel roedd menywod Greenham ym mhob man, a’n baneri trawiadol a’u symbol cennin Pedr yn ysbrydoliaeth i bawb a ymgyrchai dros heddwch, cyfiawnder a dyfodol cynaliadwy.

Fel un a fu’n Gadeirydd CND Cymru ddwywaith yn ystod y cyfnod, dwi byth yn peidio â synnu at ymrwymiad, angerdd a dewrder ein gweithredwyr.

Wrth ddathlu ein pen-blwydd, ein hunig ofid yw bod ein hangen ni o hyd – na ddigwyddodd diarfogi niwclear eto. Felly – dydyn ni ddim yn mynd i nunlle!

Jill Evans, Cadeirydd CND Cymru

Darllennwch mwy am ein hanes fan hyn.